2015 Rhif 1975 (Cy. 296)

landlord a tHenant, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2015 i 11 Medi 2016, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw’r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2014, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

 


2015 Rhif 1975 (Cy. 296)

landlord a tHenant, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2015

Gwnaed                                 2 Rhagfyr 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       8 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym                        30 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2015, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 30 Rhagfyr 2015.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“lessfavoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i eligiblehectare yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;

ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) ywr ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol ar llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru au hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin([3]);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantagedland”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwion las ar y mapiau dynodedig;

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) ywr ardal o dir sydd wedi ei lliwion binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir

2.(1)(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno’n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

(a)     yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw or tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn âr cofnod hwnnw, a

(b)     y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net or uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 or Atodlen honno gyferbyn âr cofnod hwnnw fel yi darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol ir Atodlen honno.

(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2014 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—

(a)     yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw or tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 or Atodlen honno gyferbyn âr cofnod hwnnw, a

(b)     y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net or uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn âr cofnod hwnnw.

Diwygio Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015

3.(1)(1) Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y diffiniad o “mapiau dynodedig” yn lle “1999” rhodder “1991”.

 

 

 

 

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2015

 


YR ATODLEN Erthygl 2

UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1

Defnydd ffermio

Colofn 2

Uned gynhyrchu

Colofn 3

Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)

1. Da byw

Buchod godro

buwch

450

Buchod bridio cig eidion:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

buwch

–172

ar dir arall

buwch

–189

Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)

y pen

-116 (1)

Buchod llaeth i lenwi bylchau

y pen

109(2)

Mamogiaid:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

mamog

–32

ar dir arall

mamog

–16

Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)

y pen

5

Moch:

hychod a banwesod torrog

hwch neu fanwes

250

moch porc

y pen

13.40

moch torri

y pen

17

moch bacwn

y pen

20.40

Dofednod:

ieir dodwy

aderyn

4.40

brwyliaid

aderyn

0.80

cywennod ar ddodwy

aderyn

0.40

Tyrcwn Nadolig

aderyn

6.20

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

-69

Ffa

hectar

28

Rêp had olew

hectar

-58

Pys sych

hectar

70

Tatws:

cynnar cyntaf

hectar

2,540

prif gnwd (gan gynnwys hadyd)

hectar

1,550

Betys siwgr

hectar

540

Gwenith

hectar

90

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau

Ffrwythau’r berllan

hectar

2,870

Ffrwythau meddal

hectar

9,040

4. Hectarau cymwys

Tir a oedd, yn 2014, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013

tir dan anfantais ddifrifol

hectar

65.38

tir dan anfantais

hectar

90.61

pob tir arall

hectar

36.93

(1) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

(2) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.



([1])           1986 p. 5; diffinnir “the Minister” yn adran 96(1) o’r Ddeddf honno.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

([3])           OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2015/851 (OJ Rhif L 135, 2.6.2015, t. 8).

([4])           O.S. 2015/1642 (Cy. 214).